Gwasanaeth Criw Cymraeg | Criw Cymraeg Assembly

Fel rhan o'n taith tuag at Wobr Efydd y Siarter Iaith, mae ein Criw Cymraeg wedi bod yn brysur yn annog disgyblion a staff i ddefnyddio mwy o Gymraeg o amgylch yr ysgol.

Yn ddiweddar, cyflwynodd aelodau'r Criw Cymraeg wasanaeth i ddisgyblion i'w cyflwyno i'r Siarter Iaith ac i esbonio sut gall pawb gyfrannu at wneud y Gymraeg yn rhan fwy amlwg o fywyd bob dydd yn Ysgol Gyfun Treforys.

Roedd y gwasanaeth hefyd yn gyfle i ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae, gan annog pawb i ddefnyddio cyfarchion Cymraeg syml fel "Shwmae!", "Bore da!" a "Sut wyt ti?" wrth siarad â'i gilydd.

Roedd yn wych gweld aelodau ein Criw Cymraeg yn arwain y gwasanaeth, rhannu eu brwdfrydedd a hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith eu cyd-ddisgyblion.

Mae'r gwaith hwn yn rhan bwysig o'n hymdrechion i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a chreu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo'n hyderus i ddefnyddio'r iaith.

As part of our journey towards the Siarter Iaith Bronze Award, our Criw Cymraeg have been busy encouraging pupils and staff to use more Welsh throughout the school.

Recently, members of the Criw Cymraeg delivered an assembly to pupils, introducing them to the Siarter Iaith and explaining how everyone can play a part in making Welsh a more visible part of everyday life at Morriston Comprehensive School.

The assembly also provided an opportunity to celebrate Shwmae Su'mae Day, encouraging everyone to use simple Welsh greetings such as "Shwmae!", "Bore da!" and "Sut wyt ti?" when speaking to one another.

It was fantastic to see members of our Criw Cymraeg leading the assembly, sharing their enthusiasm and promoting the Welsh language amongst their fellow pupils.

This is an important part of our efforts to increase the use of Welsh across the school and create an environment where everyone feels confident using the language.

Da iawn, Criw Cymraeg! Keep up the great work!